|
Post by danielazapata on Oct 31, 2023 22:32:10 GMT
Oeddech chi'n gwybod bod gan 19% o oedolion ifanc yn y Deyrnas Unedig gyflwr iechyd meddwl? Fodd bynnag, nid yw llawer o fyfyrwyr prifysgol yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl. Os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn ac yn astudio mewn prifysgol yn y Deyrnas Unedig, yna fe allech chi gyfrannu at ein hastudiaeth ymchwil i’n helpu ni i ddeall beth sy’n dylanwadu ar benderfyniadau myfyrwyr i geisio cymorth proffesiynol ar gyfer iechyd meddwl. Fel rhan o’n cwrs MSc Cwnsela ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn cwblhau astudiaeth ymchwil sy’n ceisio ymchwilio i’r berthynas rhwng llythrennedd iechyd meddwl, disgwyliadau o ran seicotherapi, a’r bwriad i geisio cymorth ar gyfer iechyd meddwl. Dylai gymryd tua awr i gwblhau'r holiaduron ar gyfer yr ymchwil. Os oes gennych ddiddordeb, byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn cymryd rhan yn ein hastudiaeth! Cliciwch ar y ddolen hon os hoffech gymryd rhan yn yr astudiaeth: www.psytoolkit.org/c/3.4.4/survey?s=WrnkV
|
|